Canllawiau


Beth yw Cronfa Rhaglenni Adloniant a Ffeithiol Cymru a Sky Vision ?

  • Cronfa datblygu a chynhyrchu ddewisol wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru a Sky Vision i gefnogi’r broses o greu a chynhyrchu rhaglenni teledu a fformatau adloniant a ffeithiol.
  • Mae’r gronfa ar gael i fusnesau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru, ac i fusnesau cynhyrchu eraill yn y DU sy’n creu cynyrchiadau yng Nghymru, gyda thalent o Gymru.
  • Mae Llywodraeth Cymru a Sky Vision wedi neilltuo cyfanswm o £400,000 i’w ddyrannu i brosiectau cymwys. Nid oes dyddiad terfyn ar gyfer dyrannu’r arian ond rydym yn disgwyl y bydd yr arian i gyd wedi’i ddyrannu o fewn 18 mis i’r lansiad.

Beth yw diben y Gronfa?

  • Hybu talent ac arloesedd Cymru o ran rhaglennu adloniant a ffeithiol ar gyfer y teledu.
  • Cefnogi twf cynyrchiadau teledu annibynnol yng Nghymru, yn y genres adloniant a ffeithiol.
  • Creu ffrydiau refeniw parhaus ar gyfer cynhyrchwyr adloniant a ffeithiol sy’n gwario eu cyllidebau yng Nghymru.

Beth yw manteision y Gronfa i Gynhyrchwyr Annibynnol?

Bydd y Gronfa yn darparu cymorth ariannol i Gynhyrchwyr Annibynnol cymwys yn y meysydd canlynol:

  • Datblygu rhaglenni a fformatau adloniant a ffeithiol.
  • Creu asedau datblygu, megis rhaglenni blasu a pheilot, i wella potensial comisiynu prosiectau.
  • Cynyddu potensial masnachol prosiectau a rhaglenni teledu a grëir yng Nghymru trwy ddarparu arian ychwanegol i gynnwys a gomisiynir.
  • Darparu mynediad at, a chipolwg ar, y farchnad gynnwys ryngwladol.
  • Sicrhau’r elw mwyaf i gynhyrchwyr trwy ddosbarthu rhaglenni a fformatau a gefnogir gan y Gronfa.

Beth yw manteision y Gronfa i Lywodraeth Cymru?

  • Mae’r Gronfa yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi twf y sector teledu annibynnol yng Nghymru, yn arbennig yn y meysydd canlynol:
  • Annog cynhyrchwyr a darlledwyr i gynhyrchu mwy yng Nghymru, gan ddefnyddio talent greadigol a chynhyrchu o Gymru.
  • Datblygu sgiliau talent o Gymru wrth greu a chynhyrchu rhaglenni adloniant a ffeithiol ar gyfer y teledu.
  • Sefydlu cyfleoedd refeniw parhaus i gynhyrchwyr yng Nghymru trwy fanteisio ar gynhyrchwyr annibynnol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Beth yw Sky Vision?

  • Sky Vision yw cangen cynhyrchu a dosbarthu rhyngwladol Sky.
  • Mae’r gangen ddosbarthu yn cynrychioli tua 5,000 o oriau o raglennu o safon ar amserau allweddol gan Sky Originals a chynyrchiadau trydydd parti annibynnol, ar draws yr holl genres allweddol ar oriau brig allweddol (drama, adloniant, adloniant ffeithiol a ffeithiol).
  • Mae gan y busnes hefyd fuddsoddiadau ecwiti mewn saith busnes cynhyrchu yn y DU ac UDA; Love Productions, Blast! Films, Sugar Films a Sky Vision Productions yn y DU; a Jupiter Entertainment, Talos Films a Znak & Jones yn UDA.
  • Yn ogystal â’i fuddsoddiadau ecwiti, mae Sky Vision yn gweithio yn helaeth gyda chynhyrchwyr annibynnol ledled y DU ac UDA ac mae ganddo gytundebau datblygu â nifer o gwmnïau cynhyrchu.

Beth yw manteision y Gronfa i Sky Vision?

  • Sefydlu a datblygu perthynas â chynhyrchwyr sy’n gweithredu yng Nghymru.
  • Cefnogi datblygiad cynnwys sydd â photensial refeniw ategol a manteisio i’r eithaf ar y potensial hwnnw trwy ddosbarthu rhaglenni a fformatau a gefnogir gan y Gronfa yn rhyngwladol.

Pa fathau o gynnwys a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer yr arian?

Gellir datblygu prosiectau ar gyfer unrhyw ddarlledwr, ond mae’n rhaid iddo beidio â bod wedi ei sgriptio ac mae’n rhaid iddo fodloni un o’r meini prawf creadigol canlynol:

  • cyfres ffeithiol o’r radd flaenaf ym mhen uchaf y farchnad (e.e. Loch Lomond; a Year in the Wild)
  • cyfres ffeithiol a allai ddychwelyd (e.e. 24 Hours in A&E, The Island)
  • cyfres a fformatau adloniant ffeithiol a allai ddychwelyd (e.e. Come Dine With Me, Undercover Boss, Married at First Sight)
  • cyfres a fformatau adloniant/stiwdio a allai ddychwelyd (e.e. Ninja Warrior, Take Me Out)

Mae’n rhaid i bob prosiect fod â photensial refeniw ategol, yn bennaf trwy ddosbarthu rhaglen neu fformat, er y bydd mathau eraill o botensial refeniw ategol yn cael eu hystyried (e.e. rhyngweithiol, gwerthu nwyddau). Bydd hawliau dosbarthu unrhyw brosiect yn drwyddedig i Sky Vision wrth ystyried y cyllid. Bydd Sky Vision yn cynrychioli holl hawliau ategol y prosiect, ond nid y prif hawliau darlledu sy’n eiddo i’r darlledwr gwreiddiol.

Pa brosiectau sy’n gymwys am ba rannau o’r Gronfa?

  • Arian datblygu (ac eithrio cynhyrchu rhaglen Beilot): gall unrhyw gynhyrchydd sydd â swyddfa gofrestredig a phresenoldeb busnes sylweddol yng Nghymru, a all ddangos ymrwymiad gwirioneddol neu bosibl gan ddarlledwr wneud cais am yr arian hwn.
  • Arian ar gyfer rhaglen Beilot ddarlledadwy : gall unrhyw gynhyrchydd a all ddangos ymrwymiad ariannol gwirioneddol gan ddarllenwr wneud cais am yr arian hwn ar yr amod y caiff 40% o’r gyllideb gyffredinol ei gwario ar Wariant yng Nghymru.
  • Arian ategol (caboli neu ddiffyg) ar gyfer cynnwys a gomisiynwyd : gall unrhyw gynhyrchydd a all ddangos ymrwymiad gan ddarlledwr wneud cais am yr arian hwn ar yr amod y caiff 40% o’r gyllideb gyffredinol ei gwario ar Wariant yng Nghymru. I gael gafael ar yr arian hwn, mae’n rhaid i’r cynhyrchydd fod â chytundeb comisiynu wedi ei gadarnhau gan ddarlledwr.

Gan Sky Vision y mae’r disgresiwn llwyr o ran dyrannu’r Gronfa i gynhyrchwyr a phrosiectau sy’n bodloni’r meini prawf o ran presenoldeb yng Nghymru (ar gyfer yr arian datblygu) a’r meini prawf Gwariant yng Nghymru* (ar gyfer yr arian arall). Bydd Sky Vision yn seilio ei benderfyniadau ar hyfywedd creadigol a masnachol yr ymgeiswyr cymwys.

*Gwariant yng Nghymru yw gwariant ar nwyddau a gwasanaethau a gyflenwyd gan fusnesau ac unigolion llawrydd wedi eu lleoli yng Nghymru ac sy’n gweithredu o Gymru neu yng Nghymru. Yn achos arian rhaglenni Peilot, pan fo’r darlledwr yn mynnu, o ran y gyfres ganlyniadol, na fydd 40% o’r gyllideb gyffredinol yn cael ei gwario ar Wariant yng Nghymru, bydd arian Llywodraeth Cymru yn ad-daladwy yn ddiofyn.

Beth yw’r lefelau cyllid fesul prosiect?

Mae’r lefelau cyllid yn amrywio, yn yr un modd â chymhareb y cyfraniad gan Lywodraeth Cymru a Sky Vision, yn dibynnu ar y cam datblygu:

  • Arian Datblygu. Hyd at £10,000 fesul prosiect. Cymhareb ariannu: 70:30 Llywodraeth Cymru: Sky Vision.
  • Arian rhaglenni Peilot. Hyd at £50,000 fesul prosiect. Cymhareb ariannu: 50:50
  • Arian ategol ar gyfer cynnwys a gomisiynwyd. Hyd at £75,000 fesul prosiect. Cymhareb ariannu 30:70 Llywodraeth Cymru: Sky Vision.

A oes angen ad-dalu’r Gronfa?

  • Nid oes angen ad-dalu cyfran Llywodraeth Cymru o unrhyw fuddsoddiad, ac eithrio pan nad yw’r gyfres ganlyniadol sy’n deillio o raglen beilot yn bodloni’r meini prawf Gwariant yng Nghymru* neu os bydd digwyddiadau diofyn penodol yn digwydd.
  • Mae 100% o gyfran Sky Vision o’r Gronfa yn ad-daladwy yn erbyn refeniw a gesglir gan Sky Vision drwy fanteisio ar hawliau ategol unrhyw brosiect.

Sut bydd Sky Vision yn dosbarthu’r prosiectau ac ar ba delerau?

Mae Sky Vision wedi ei leoli yn Sky yn Llundain, ac mae ganddo swyddfeydd ym Munich, Madrid a Singapore. Mae’n cynrychioli cynnwys o amryw ffynonellau, gan gynnwys sianelu Sky ei hun, darlledwyr eraill yn y DU ac Ewrop, a chynhyrchwyr yn y DU, UDA, Awstralia, yr Almaen, Ffrainc, yr Iseldiroedd a De Affrica.

Mae catalog Sky Vision yn cynnwys ystod eang o genres, gan gynnwys drama ym mhen uchaf y farchnad a rhaglennu ffeithiol o bob math, o raglenni dogfen ffeithiol arbenigol i fformatau adloniant ysgafn.

Mae gan dîm gwerthiannau Sky Vision gwmpas byd-eang trwy bresenoldeb a chynrychiolaeth ym mhob prif farchnad ryngwladol, gan gynnwys; MIPCOM, MIPTV, NATPE a Real Screen, er y caiff rhaglenni eu lansio ar y farchnad ryngwladol drwy gydol y flwyddyn.

Mae telerau dosbarthu safonol Sky Vision yn cynnwys comisiwn sylfaenol o 28% ar gyfer rhaglenni sydd wedi’u cwblhau a 30% ar gyfer fformatau, yn ddarostyngedig i gontract. Bydd ein telerau a’n amodau safonol ar gael trwy wneud cais i’r gronfa.

Sut mae gwneud cais i’r Gronfa?

Mae Sky Vision yn rheoli’r gronfa a gellir gwneud cais am yr arian trwy ei wefan yn www.skyvision.sky.com/fund. Bydd ceisiadau llwyddiannus yn bodloni meini prawf gwariant cynhyrchu Llywodraeth Cymru a meini prawf masnachol Sky Vision ar sail yr elw posibl yn erbyn y gwariant.

Sut bydd arian y Gronfa yn dod i law?

Bydd 100% o'r arian ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus wrth lofnodi memorandwm y cytundeb, ac wrth gyflwyno anfoneb ddilys. Gall y taliad gymryd hyd at 45 diwrnod o gael anfoneb ddilys.